Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (140) |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 4 a 9 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.
2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Dechreuodd yr eitem am 14.15
Gofynnwyd y 3 chwestiwn.
3 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Dechreuodd yr eitem am 14.24
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 2 a 4 i 9. Tynnwyd cwestiynnau 3 a 10 yn ôl.
4 Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Meysydd Carafanau Gwyliau (Cymru) (Darren Millar)
Dechreuodd yr eitem am 15.10
NNDM5258 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Darren Millar gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 18 Ebrill 2013 o dan Reol Sefydlog 26.90.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.46
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5268 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr angen am strategaeth hedfan gynhwysfawr a chydlynol yng Nghymru.
2. Yn cydnabod ymhellach gynigion Ceidwadwyr Cymru ar gyfer Maes Awyr Caerdydd, a amlinellir yn y cyhoeddiad, ‘Glasbrint ar gyfer Maes Awyr Caerdydd’.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
38 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cefnogi'r datblygiadau i Faes Awyr Caerdydd sydd wedi'u hwyluso gan y sector cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
4 |
12 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am ddatganoli cyfraddau'r Doll Teithwyr Awyr ar gyfer teithiau pell i Gymru, fel yr argymhellwyd yn rhan 1 Comisiwn Silk, a bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynigion ar gyfer cyfraddau Toll Teithwyr Awyr i Gymru er mwyn ategu strategaeth hedfan nesaf Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio rôl a threfn lywodraethu Tasglu Maes Awyr Caerdydd yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi prynu Maes Awyr Caerdydd yn ddiweddar.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gwasanaeth bws cyflym, hirddisgwyliedig, o Gaerdydd i Faes Awyr Caerdydd, a addawyd yn gyntaf gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2009, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddatgan ei hymrwymiad i gyflwyno’r gwasanaeth hwn ym mis Awst 2013.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5268 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr angen am strategaeth hedfan gynhwysfawr a chydlynol yng Nghymru.
2. Yn cefnogi'r datblygiadau i Faes Awyr Caerdydd sydd wedi'u hwyluso gan y sector cyhoeddus.
3. Yn galw am ddatganoli cyfraddau'r Doll Teithwyr Awyr ar gyfer teithiau pell i Gymru, fel yr argymhellwyd yn rhan 1 Comisiwn Silk, a bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynigion ar gyfer cyfraddau Toll Teithwyr Awyr i Gymru er mwyn ategu strategaeth hedfan nesaf Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio rôl a threfn lywodraethu Tasglu Maes Awyr Caerdydd yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi prynu Maes Awyr Caerdydd yn ddiweddar.
5. Yn croesawu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gwasanaeth bws cyflym, hirddisgwyliedig, o Gaerdydd i Faes Awyr Caerdydd, a addawyd yn gyntaf gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2009, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddatgan ei hymrwymiad i gyflwyno’r gwasanaeth hwn ym mis Awst 2013.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
12 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
6 Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.48
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5269 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi rôl allweddol y system gynllunio o ran cyfrannu tuag at gynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r system gynllunio fel ei bod yn adlewyrchu'n well egwyddorion datblygu cynaliadwy, yn arbennig:
a) bod Cynlluniau Datblygu Lleol yn adlewyrchu anghenion tai lleol yn well;
b) bod yr iaith Gymraeg yn dod yn ystyriaeth gynllunio fwy ystyrlon; ac
c) bod y system gynllunio'n hwyluso twf gwyrdd yn well.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
16 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.46
7 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.50
NDM5267 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A yw'r Parth Clustogi glo brig yn addas at y diben?
Dadl sy'n trafod y problemau sydd wedi codi ers i'r parth clustogi gael ei gyflwyno yn MTAN2 yn 2009, gan drafod a ydyw mewn gwirionedd wedi cyflawni diogelwch i gymunedau sy'n byw gyda chloddio glo brig.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:11
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 25 Mehefin 2013